Y Pwyllgor Busnes |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 18 Mawrth 2013 |
|
|||
Amser: |
15:00 - 15:19 |
|
|||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Pwyllgor: |
|
Rosemary Butler (Cadeirydd) Jocelyn Davies William Graham Lesley Griffiths (yn lle Jane Hutt) Aled Roberts |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Aled Elwyn Jones (Clerc)
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Eraill yn bresennol: |
|
Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaethau’r Siambr a Deddfwriaeth Claire Fife, Llywodraeth Cymru Sarah Canning, Llywodraeth Cymru
|
|||
|
|
||||
1. Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau
Croesawodd y Pwyllgor Busnes Lesley Griffiths fel y Gweinidog newydd ar gyfer busnes y Llywodraeth (yn dirprwyo ar ran Jane Hutt tan iddi gael ei hethol yn ffurfiol i’r Pwyllgor Busnes).
2. Diwygiadau i Reolau Sefydlog 26 a 26A: Y Cyfnod Ailystyried
Cytunodd y rheolwyr busnes mewn egwyddor i’r diwygiadau arfaethedig i Reolau Sefydlog 26 a 26A.
3. Diwygiadau i Reolau Sefydlog 21 a 27: Cyflwyno Adroddiadau ar Offerynnau Statudol
Cytunodd y rheolwyr busnes mewn egwyddor i’r diwygiadau arfaethedig i Reolau Sefydlog 21 a 27.
4. Diwygiadau i Reolau Sefydlog 29 a 30: Cydsyniad mewn Perthynas â Biliau Senedd y DU
4(i) Biliau Perthnasol (Rheolau Sefydlog 29.1, 29.2 a 30)
Dywedodd y Gweinidog dros Fusnes y Llywodraeth wrth y pwyllgor fod y Llywodraeth wedi methu dod i gytundeb â Swyddfa Cymru ynghylch diwygio Nodyn Canllaw Datganoli 9 yn unol â’r newiadau arfaethedig hyd yma. Oherwydd hynny, ni allai’r Llywodraeth dderbyn yr holl welliannau ar hyn o bryd a gofynnodd am fwy o amser i drafod â Swyddfa Cymru.
Cytunodd y rheolwyr busnes i ystyried ymhellach y diwygiadau arfaethedig i Reolau Sefydlog 29.1, 29.2 a 30 mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Busnes yn y dyfodol.
4(ii) Gwybodaeth mewn Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (Rheol Sefydlog 29.3)
Cytunodd y rheolwyr busnes mewn egwyddor i’r diwygiadau i Reol Sefydlog 29.3.
4(iii) Cyfeirio at Bwyllgor (Rheolau Sefydlog 29.4 a 29.5)
Cytunodd y rheolwyr busnes mewn egwyddor i’r diwygiadau i Reol Sefydlog 29.4 ac i ddileu Rheol Sefydlog 29.5.
4(iv) Cyflwyno Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol (Rheolau Sefydlog 29.2A a 29.6)
Cytunodd y rheolwyr busnes mewn egwyddor i Reol Sefydlog 29.2A newydd a Rheol Sefydlog 29.6 diwygiedig.